BBC iPlayer

BBC iPlayer
Logo BBC iPlayer (Chwaraewr Cyfryngau)
Hafan BBC iPlayer (2011) (Chwaraewr Cyfryngau)
Hafan BBC iPlayer (fersiwn Gymraeg) 2011
Datblygwyr BBC
Lansiad Nadolig 2007
Ieithoedd Cymraeg, Saesneg, Gaeleg yr Alban
Ardal gwasanaeth Cymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon
Gwefan http://www.bbc.co.uk/iplayer/cy Archifwyd 2011-02-24 yn Archive-It

Mae BBC iPlayer yn wasanaeth a ddatblygwyd gan y BBC sy'n galluogi defnyddwyr y rhyngrwyd gyda band llydan i ddal i fyny gyda theledu'r wythnos cynt. Integrated Media Player (IMP) oedd enw gwreiddiol y chwaraewr cyfryngau, ac yna MyBBCPlayer. Gellir derbyn y gwasanaeth dros y rhyngrwyd ar gyfrifiadur personol, teledu cebl, iPhone, iPod touch a hefyd Nintendo Wii. Lansiwyd y gwasanaeth ar ddiwrnod Nadolig 2007.

Mae'r wefan nawr yn cynnwys rhaglenni Cymraeg a gynhyrchwyd gan y BBC megis Pobol y Cwm. Maen nhw hefyd wedi lansio fersiwn Cymraeg o'r wefan Archifwyd 2013-01-13 yn Archive.is.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search